Gwesty’r Castell - YR ARDAL LEOL
Mae Aberystwyth yn gorwedd ar arfordir gorllewin Cymru, yn swatio ym Mae Ceredigion gyda’r mynyddoedd a’r môr yn ei hamgylchynu. Tref fywiog yw hi sy’n cynnig gwledd o ddiwylliant, treftadaeth, siopau annibynnol a lleoedd gwych i fwyta ac yfed.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru sy’n cynnig dramâu, ffilmiau, comedi, sioeau, perfformiadau, celf a cherddoriaeth fyw. Neu am brofiad ffilm arbennig iawn ewch i sinema deuluol annibynnol y Commodore yng nghanol y dref, neu ym mhentref glan môr y Borth gerllaw, mae capel sydd wedi’i drawsnewid yn gartref i’r sinema unigryw Libanus 1877.
Llyfrgell adneuo gyfreithiol yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n dal 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd a 950,000 o ffotograffau. Mae’n cynnig teithiau, sgyrsiau ac arddangosfeydd. Oriel fwyaf Cymru yw Oriel Gregynog ac yn ddi-os mae’n werth ymweld â hi.
Mae Amgueddfa Ceredigion gyda’i chartref mewn theatr Edwardaidd sydd wedi’i chadw mewn cyflwr gwych yn cynnig ffordd unigryw o ddysgu am hanes Ceredigion.
Mae’r dirwedd yn y cyffiniau’n odidog a gellir ei phrofi mewn sawl ffordd gan gynnwys Llwybr Arfordir Ceredigion neu drwy’r canolfannau beicio lu. Mae Aberystwyth yn cynnig toreth o brofiadau bywyd gwyllt gan gynnwys cyfle i weld dolffiniaid trwynbwl, llamhidyddion harbwr a morloi llwyd a dyma un o’r ychydig leoedd yn y DU lle gallwch wylio patrymau cyfareddol y drudwns wrth iddynt heidio yn erbyn cefndir machlud yr haul dros y môr.
Mae Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth eang o fwytai a chaffis gan gynnwys bwytai arobryn y Pysgoty a Gwesty Cymru, bwyd tafarn traddodiadol ar ei orau ym Mar 46 a’r Glengower a’r profiadau bwyd arbennig yn yr Olive Branch, Medina, Y Stordy, Treehouse a Backyard BBQ.
Yn Aberystwyth ceir llwyth o siopau annibynnol hyfryd sy’n berffaith ar gyfer pori neu gael hyd i anrhegion gwyliau unigryw gan gynnwys Broc-Môr, Siopau Polly, Siop y Pethe, Siop Grefftau a Dylunio Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Coastal Vintage a Gemwaith Rhiannon.
Am fwy o wybodaeth am Aberystwyth gweler gwefannau Croeso Cymru, Darganfod Ceredigion neu Wefan Dwristiaeth Aberystwyth.